Y Gyfnewidfa'n cyfrannu at gynhadledd ieithoedd modern

Y Gyfnewidfa'n cyfrannu at gynhadledd ieithoedd modern

14 Mehefin 2012

Bydd y Gyfnewidfa yn cyfrannu at banel rhwydwaith mewn cynhadledd arbennig ar ddatblygu maes ymchwil ieithoedd modern yng Nghymru. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe ar y 13-14eg o Fehefin, 2012. Bydd amrywiaeth o brifysgolion a sefydliadau yn ymuno i gyflwyno a thrafod ymchwil gwreiddiol yn y maes gyda'r bwriad o gryfhau'r gymuned ymchwil ieithoedd modern yng Nghymru. Mae'r gynhadledd yn cael ei chefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi ei sefydlu i gynyddu, datblygu ac ehangu'r ystod o astudiaethau uwch y gellir eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.