The Old Red Tongue – Cyhoeddi detholiad newydd o lenyddiaeth Gymraeg

The Old Red Tongue – Cyhoeddi detholiad newydd o lenyddiaeth Gymraeg

20 Mehefin 2017

Old red tongue

Cyhoeddwyd The Old Red Tongue detholiad o dros 300 o destunau - yn gerddi, dramâu, hunangofiannau, ysgrifau, detholion o nofelau byrion a straeon byrion, emynau, molawdau, marwnadau, rhyddiaith o’r canol oesoedd, sylwadaeth ddiwinyddol a gwleidyddol gan dros ddau gant o awduron, o’r 6ed ganrif hyd heddiw.

Cyhoeddir y detholiad fel rhan o gyfres Lesser Used Languages of Europe gan y cyhoeddwr Francis Boutle, ac mae’r gyfrol yn cynnwys cerddi o’r Hen Ogledd, detholiad o’r Mabinogi, cerddi gan Dafydd ap Gwilym, ac awduron a anghofiwyd o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg fel Lewys Morgannwg a William Salesbury.

Cyhoeddir gwaith dros 100 o awduron o’r ugeinfed ganrif - yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Kitchener Davies, Caradog Prichard, ac awduron cyfoes megis Wiliam Owen Roberts, Mererid Hopwood, Menna Elfyn, Bobi Jones, Gwyneth Lewis ac Alan Llwyd. Mae’r testunau yn ymddangos yn y Gymraeg gyntaf, gyda chyfieithiadau Saesneg yn dilyn, nifer ohonynt wedi eu cyfieithu i’r Saesneg am y tro cyntaf.

Golygwyd y gyfrol gan Gwyn Griffiths a Meic Stephens, a’r nod yw cyflwyno darllenwyr newydd i gyfoeth llenyddiaeth Gymraeg.

Ceir mwy o fanylion am y The Old Red Tongue yma.