Tiffany Atkinson yn Yr Ariannin

Tiffany Atkinson yn Yr Ariannin

07 Hydref 2012

Gwahoddwyd Tiffany Atkinson i Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Rosario, Yr Ariannin, fis Medi 2012. Bu'r ymweliad yn ddechrau ar broses o gydweithio gyda'r awdures a'r cyfieithydd o'r Ariannin, Ines Garland.

Y bardd ac un o syflaenwyr y Club de traductores ym Muenos Aires, Jorge Fondebrider, yw un o'r rhai sydd wedi bod yn hwyluso'r cysylltiadau hyn. Gyda chefnogaeth y Gyfnewidfa, mae ar hyn o bryd yn gweithio ar flodeugerdd o farddoniaeth o Gymru i'w chyhoeddi yn Yr Ariannin.

Yn 2011, cafodd y bardd Richard Gwyn ei wahodd draw i'r ŵyl. Bu'n weithgar ar ôl dychwelyd i Gymru yn sefydlu gŵyl unigryw, Fiction Fiesta, sydd wedi gweu cysylltiadau hir-dymor pellach rhwng bydoedd llenyddol Cymru a'r Ariannin. Roedd Jorge Fondebrider yn un o'r beirdd a'r cyfieithwyr fu draw o'r Ariannin yn yr ŵyl yng Nghaerdydd fis Mawrth 2012.

Cyfieithiad arall sydd ar y gweill yng nghyfandir De America yw cyfrol o farddoniaeth Owen Sheers i'w chyhoeddi erbyn ffair lyfrau Guadalajara, Mecsico, ddiwedd mis Tachwedd. Mae Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful gan Deborah Kay Davies hefyd newydd ei chyhoeddi gan wasg Bajo la luna, ac edrychwn ymlaen at weld The Vagabond's Breakfast gan Richard Gwyn yn cael ei chyhoeddi yn Chile ac yn Yr Ariannin, ynghyd â chyfieithiad Sbaeneg o ddetholiad o'i farddoniaeth.

Cafodd taith Tiffany i'r Ariannin gefnogaeth ariannol werthfawr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.