Cyfieithu llenyddiaeth plant - penwythnos creadigol

Cyfieithu llenyddiaeth plant - penwythnos creadigol

02 Mawrth 2012

Mae'r Gyfnewidfa yn trefnu penwythnos cyfieithu creadigol yn canolbwyntio ar lenyddiaeth plant yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, Llanystumdwy, 10-11 Mawrth, 2012.

Mae'r cwrs yn cael ei drefnu mewn partneriaeth â Thŷ Newydd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru fel rhan o raglen weithgaredd Tŷ Cyfieithu Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Yn ystod deuddydd difyr, bydd aelodau'r cwrs yn cael cyfle i fwynhau cyflwyniadau, trafodaethau a gwaith ymarferol yng nghwmni awduron adnabyddus, rhyngwladol sydd yn ysgrifennu ar gyfer plant. Bydd Sampurna Chattarji o Mumbai, Mererid Hopwood, Jyrki Kiiskinen o'r Ffindir a Gerður Kristný o Wlad yr Iâ yn rhannu eu profiadau yn cyfieithu gwaith ei gilydd.