Dyddiad cau Her Gyfieithu 2017 yn agoshau

Dyddiad cau Her Gyfieithu 2017 yn agoshau

12 Mai 2017

Her Gyfieithu

Mae llai na mis bellach i gwbwlhau eich cyfiethiadau ar gyfer Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru.

Gwaith Nâzım Hikmet (1902–1963) yw Her Gyfieithu 2017, un o feirdd amlycaf Twrci’r ugeinfed ganrif, ac un a garcharwyd am ei ddaliadau gwleidyddol. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i dros 50 o ieithoedd, ond nid, hyd yma, i’r Gymraeg.*

Cynhaliwyd cystadleuaeth Her Gyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru oddi ar 2009. Eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, rydym yn cydweithio gyda Wales PEN Cymru. Gwobrwyir y buddugol gyda Ffon Farddol hardd o waith Elis Gwyn mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd a £250 - yn rhoddedig gan Brifysgol Abertawe.

Fel rhan o’r adnoddau sydd ar gael i’r cystadleuwyr ar wefan Wales PEN Cymru, mae cyfieithiadau i’r Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Catalaneg a dau gyfieithiad gwahanol i’r Sbaeneg. Mae’n siŵr fod rhagor o gyfieithiadau i ieithoedd eraill ar gael ar-lein ynghyd â rhagor o fersiynau i’r ieithoedd hyn. Rydym wedi cynnwys dolen at fideo o’r bardd yn darllen ei gerdd yn y Twrceg, yn ogystal â nodiadau am yr awdur ac ar nodweddion yr iaith a’i barddoniaeth.

Er ein bod yn arbrofi gyda’r gystadleuaeth, dull ceidwadol a thraddodiadol fydd i’r beirniadu, gyda’r beirniad, Caroline Stockford, yn meddu ar y Gymraeg a'r Twrceg ac â phrofiad sylweddol o gyfieithu creadigol. Drwy ddethol gwaith ble bydd y cyfieithu yn debygol iawn o ddigwydd drwy ieithoedd pont neu gyd-weithio, ein bwriad yw holi a yw’r dulliau amgen hyn yn gallu arwain at gyfieithu llwyddiannus?

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru, a’n chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, wedi cynnal gweithdai cyfieithu niferus dros y blynyddoedd, gan gynnig cyfle i awduron gydweithio a chyfieithu gwaith ei gilydd. Dyma agor fersiwn o’r gweithdy cyfieithu i gynulleidfa ehangach.

Mae’n gyfle hefyd i ystyried sut mae adeiladu a chryfhau’r pontydd cyfieithu rhwng y Gymraeg a rhai o ieithoedd y byd, boed niferus neu ychydig eu siaradwyr, ieithoedd sydd y tu hwnt i gwricwla ysgolion.

Mae’r holl fanylion y gystadleuaeth, yn cynnwys y gerdd a manylion cystadlu ar gael ar wefan Wales PEN Cymru. Dyddiad cau yw 31 Mai 2017, cyhoeddir enw’r enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Iau 10fed Awst 2017.

Partneriaid Her Gyfieithu 2017 yw: Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, PEN Cymru a Phrifysgol Abertawe.

*Noder bod yr her i'r Saesneg yn gwbl wahanol. Manylion yn llawn ar ein tudalen Saseneg.

Oriel Gysylltiedig