Her Gyfieithu 2018

Her Gyfieithu 2018

24 Mai 2018

Her Gyfieithu 2018 dimlogo

Bob blwyddyn mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn cydweithio gyda Wales PEN Cymru a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gynnal yr Her Gyfieithu a osodir i geisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Cefnogir yr her eleni hefyd gan gylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

Dewisir darn o waith sydd ag iddo berthnasedd i sefyllfa neu argyfwng penodol yn y byd ac sydd a wnelo rhyddid mynegiant a hawliau ieithyddol, yn unol ag amcanion PEN Cymru a PEN Rhyngwladol.

Eleni cerdd o Gatalunya yw’r darn gosod, gan y bardd Laia Martinez i Lopez (neu Laia Malo) sydd hefyd yn gyfieithydd o’r Rwsieg ac yn gerddor yn y band electronig Jansky. Cyhoeddwyd y gerdd ddideitl hon yn ei phumed cyfrol o farddoniaeth sef Venus volta (Lleonard Muntaner Editor, 2018), ond fe ymddangosodd yn gyntaf ar 3 Tachwedd 2017 yn y papur newydd digidol Vilaweb el rhan o gyfres o gerddi ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau Rhyddid) yn cyflwyno ymateb beirdd i’r sefyllfa yng Nghatalwnia.

Cyflwynir gwobr o £100 gan Mercator Rhyngwladol a Ffon Her Gyfieithu hardd o waith Elis Gwyn Jones, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Y beirniad eleni yw Ned Thomas. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 10fed o fis Gorffennaf 2018 ac fe gyhoeddir enw’r enillydd ddydd Iau 10fed Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn digwyddiad arbennig.

Er nad yw’r unigolyn sydd yn medru’r Gymraeg a’r Gatalaneg – ac yn medru cyfieithu barddoniaeth yn niferus, roeddem am osod her eleni i gyfieithu rhwng y Gymraeg a iaith nad yw’n cael ei dysgu’n eang yng Nghymru. Gan mai iaith sydd yn deillio o’r Lladin yw’r Gatalaneg, mae modd defnyddio gwybodaeth o ieithoedd mwy cyffredin, Ffrangeg a Sbaeneg, ynghyd ag Eidaleg a Phortiwgaleg i fedru cyrraedd a deall y testun. Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o gerdd mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall.

Gall ymgeiswyr fwrw ati i greu cyfieithiad mewn unrhyw ffordd a ddymunant, gan ddefnyddio adnoddau arlein neu mewn print, gan gynnwys cydweithio gyda phobl eraill. Noder mai un wobr o ganpunt ac un Ffon yr Her Gyfieithu fydd, waeth faint o bobl fydd wedi cyfrannu at yr ymgais!

Rhaid cystadlu drwy wefan Wales Pen Cymru a chodir ffi o £6 am bob ymgais. Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nac un ymgais wrth dalu’r nifer priodol o ffioedd ymgeisio, a dylid cyflwyno pob cais dan ffugenw gwahanol.

Os y bydd teilyngdod, fe gyhoeddir y cyfieithiad buddugol ynghyd a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar y dydd.

Mae Her Gyfieithu yn rhan o raglen waith Cyfnewidfa Lên Cymru a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Y Gerdd | Her Gyfieithu 2018

Fa dies que crides pels carrers que no tens por.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Esdevindrem alquimistes
i dels temors, en farem flors:
escrius la consigna a les pancartes.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Què coi en sabem, de l’alquímia, nosaltres?
Què coi en sé, jo, del pes de l’or, de la substància?
Per fer l’experiment, pintem ben gran als murs
que valen el mateix totes les ànimes.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Aturarem la fam penjant els davantals
i resistint el setge amb pa i formatge:
etzibes la resposta que ha de salvar el món.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
I sola, arraulida al racó de la pregària,
obres la boca en desesper i demanes:
per què tanta veu, si no us puc dar consol?

LML, 3 novembre

I gystadlu ewch i wefan Wales Pen Cymru.