Translation Challenge 2019

Translation Challenge 2019

10 Ebrill 2019

Translation challenge

Mae’n bleser gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, the Polish Cultural Institute ac O’r Pedwar Gwynt gyhoeddi’r ddwy gystadleuaeth gyfieithu sef Her Gyfieithu 2019 (o Bwyleg i Gymraeg) a Translation Challenge 2019 (o Bwyleg i Saesneg).

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu a The Translation Challenge yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.


Cyflwynwyd cerddi ar gyfer y cystadlaeth gan y bardd Pwyleg cyfoes Wioletta Greg/Grzegorzewska.

Beirniad: Antonia Lloyd-Jones.

Dyddiad Cau ar gyfer cystadlu yn Translation Challenge i’r Saesneg yw: 10fed Mai 2019.

Gwobr: £200.

Cyhoeddir enw’r enillydd ddydd Sadwrn Mai 25ain yng Ngŵyl y Gelli.

Rhaid cystadlu drwy wefan walespencymru ynghyd â ffi cystadlu o £6. Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nac un cynnig ond rhaid cyflwyno ffi am bob ymgais. Caniateir i gystadleuwyr ddefnyddio unrhyw adnodd a ddymunant wrth gystadlu yn yr Her ac fe ganiateir gwaith grŵp, ond noder mai un wobr sydd.