Her Gyfieithu 2020

Her Gyfieithu 2020

19 Chwefror 2020

Her Gyfieithu 2020 2


Mae’n bleser gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Poetry Wales, O’r Pedwar Gwynt a Goethe-Institut, gyhoeddi’r ddwy gystadleuaeth gyfieithu eleni, sef yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge.

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu (cyfieithu i’r Gymraeg) a The Translation Challenge (cyfieithu i’r Saesneg) yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.

Y darn gosod eleni ar gyfer y ddwy gystadleuaeth yw dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd adnabyddus o dras Twrcaidd sy’n ysgrifennu mewn Almaeneg, Zafer Şenocak.

Dyddiad cau: 22 Mai 2020

Beirniad: yr Athro Mererid Hopwood

Gwobr: £200 a Ffon yr Her Gyfieithu (rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

Manylion ar sut i gystadlu ar wefan Wales PEN Cymru.

Llun o Zafer Şenocak gan Andreas Mitselos