Tŷ Cyfieithu'n croesawu awdur preswyl o Slofenia

Tŷ Cyfieithu'n croesawu awdur preswyl o Slofenia

02 Ionawr 2012

Mae Tŷ Cyfieithu Cymru'n falch o groesawu Maruša Krese fel awdur preswyl ar gyfer Ionawr 2012. Yn wreiddiol o Slofenia, mae hi bellach yn rhannu ei hamser rhwng Ljubljana a Berlin.

Ganwyd Krese yn 1947 ac astudiodd lenyddiaeth, hanes celf a seicotherapi yn Ljubljana, Llundain ac Utrecht. Rhwng 1975 ac 1989 gweithiodd fel seicotherapydd, eto yn Ljubljana, Llundain a Tübingen cyn troi at newyddiaduraeth, gan weithio yn Berlin ar gyfer radio Slofenia yn 1990. Mae'n gweithio fel newyddiadurwr ac awdur yn Berlin ers hynny. Yn 1997 fe'i gwobrwywyd gan lywodraeth Gweriniaeth Ffederal Yr Almaen am ei hymdrechion dyngarol yn rhyfel Bosnia. Yn 2007 enillodd wobr Fabula yn Slofenia am ei chasgliad o straeon byrion, Vsi moji bozici (Mladinska knjiga Zalozba, 2006; All my Christmases).

Yn ystod ei phreswyliad, bydd Maruša Krese yn gweithio gyda Menna Wyn o Brifysgol Bangor ar gyfieithu ei gwaith i'r Gymraeg. Bydd hefyd yn cydweithio gyda myfyrwyr ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol, fydd yn cyfietihu ei gwaith i'r Gymraeg fel ymarfer i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol.

Mae preswyliad Maruša yn rhan o brosiect awduron preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru/HALMA ac yn cael ei gefnogi gan y Slovenian Book Agency a thŷ cyhoeddi GOGA yn Slofenia.

Cynnwys Cysylltiedig