Cyhoeddwyr o Brydain ar ymweliad â Bratislava a Budapest

Cyhoeddwyr o Brydain ar ymweliad â Bratislava a Budapest

08 Tachwedd 2012

Bydd pum cyhoeddwr o Brydain ar ymweliad â Budapest a Bratislava fis Tachwedd (7-11 Tach 2012) fel rhan o ymdrechion glew Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i annog cyfnewid llenyddol ar draws Ewrop. Bydd Gary Pulsifer o Arcadia Books, Katharina Bielenberg o MacLehose Press, Richard Davies o wasg Parthian, Simon Smith o wasg Peter Owen a Jim Hinks o Comma Press yn ymweld â ffair lyfrau Biblioteka yn Bratislava ac yn cyfarfod cyhoeddwyr a hyrwyddwyr llenyddol i ddyfnhau eu hadnabyddiaeth o'r cyd-destun llenyddol cyfredol yn yr ieithoedd Slofaceg a Hwngareg. Bydd y cyfarfodydd yn gyfle i gyhoeddwyr gyfnewid hawliau cyfieithu a dod â mwy o lenyddiaeth Hwngari a Slofacia i Gymru a Phrydain. Mae'r ymweliad yn cael ei drefnu gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â'r Hungarian Books and Translation Office a'r Centre for Information on Slovak Literature. Gweithiodd y Gyfnewidfa gyda Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i sicrhau presenoldeb cyhoeddwr o Gymru.