Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018

Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018

15 Mai 2018

Llyf2018 2

Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 gan Lenyddiaeth Cymru.

Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2017 yn Gymraeg a Saesneg, a hynny mewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.

Detholwyd tair o gyfrolau Silff Lyfrau 2017 - 2018 Cyfnewidfa Lên Cymru i restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018, Fabula gan Llŷr Gwyn Lewis, sy’n ymddangos ar restr fer ffuglen Gymraeg, The Mabinogi gan Matthew Francis, sy’n ymddangos ar restr fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias, a Bad Ideas \ Chemicals gan Lloyd Markham, a gyrhaeddodd rhestr fer y categori ffuglen Saesneg.

Yn beirniadu’r cyfrolau Cymraeg mae’r ddarlledwraig Beti George; Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016, Aneirin Karadog a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Caryl Lewis, tra’n beirniadu’r cyfrolau Saesneg mae’r awdur a’r colofnydd Carolyn Hitt; y bardd a’r golygydd Kathryn Gray; a’r awdur Cynan Jones, a enillodd wobr y BBC Short Story Award 2017.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Cyflwynir hefyd Wobr Barn y Bobl yn y ddwy iaith mewn cydweithrediad a Golwg 360 a Wales Arts Review.

Cyhoeddir enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Fawrth, 26 Mehefin 2018. Mae rhagor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2018 yma.

Rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018

Gwobr Farddoniaeth

  • Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas);
  • 
Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
;
  • Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch).

Gwobr Ffuglen

  • Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa);
  • 
Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
;
  • Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa).

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa);
  • 
Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)
;
  • Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)