Gwyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru

Gwyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru

26 Ebrill 2017

DSC 0649 493x273

Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru yn dychwelyd am y pumed tro, gyda chyfres o ddarlleniadau, perfformiadau, trafodaethau a dangosiadau ffilm barddoniaeth dros bedwar diwrnod yn Aberystwyth, Bangor a Chaernarfon. Bydd yr ŵyl yn agor yn Aberystwyth ar 3 Mai cyn symud i Fangor a Chaernarfon rhwng 5 - 6 Mai 2017.

Bydd beirdd o Chile, Ffrainc, Galicia, India, Mecsico, Yr Alban, Slofenia a Chymru yn darllen ac yn perfformio yn eu hieithoedd gwreiddiol gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae dangosiadau o ffilmiau barddoniaeth yn nodwedd newydd i'r ŵyl. Mae'r beirdd yn cynnwys yn Juana Adcock, Nicky Arscott, Fiona Cameron, Yolanda Castaño, Frédéric Forte, Anja Golob, Patrick McGuinness, Luna Montenegro ac eraill.

Eleni bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar farddoniaeth o wledydd ble siaredir Sbaeneg, eu perthynas lenyddol ag Ewrop a rôl wleidyddol barddoniaeth yn America Ladin a Sbaen yn ogystal â thrafodaeth ar rôl barddoniaeth fel modd o wrthsefyll.

Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a gefnogir gan Raglen Ewrop Greadigiol yr Undeb Ewropeaidd. Trefnir yr ŵyl gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, gyda chydweithrediad prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, ac mewn partneriaeth â Poetry Wales, Cyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru. Cefnogir yr ŵyl gan y Gyngor Prydeinig Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llywodraeth Galicia, Llysgenhadaeth Mecsico, Canolfan Llenyddiaeth Slovenia (CSK) ac Asiantaeth Lyfrau Slofenia (JAK).

Gellir lawrlwytho’r rhaglen yn llawn yma.