Y Gyfnewidfa yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2014

Y Gyfnewidfa yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2014

07 Hydref 2014

Logo

Fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i’r Almaen yr wythnos hon, ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt.

Eleni, Y Ffindir fydd gwlad wadd y ffair lyfrau a gynhelir rhwng Hydref 8 – 12 2014. Fe fyddwn yn cyfarfod gyda chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod y ffair, cysylltwch gyda Sioned Puw Rowlands, sioned@cyfnewidfalen.org

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at y drafodaeth ganlynol a drefnir gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau:

Llenyddiaeth Ryngwladol yn y Almaen, Ffrainc a’r DG – Persbectif cymharol
Dydd Iau, Hydref 9fed
14:30 – 15:30
Salon Weltempfang Salon, Neuadd 5.0

Er gwaetha’r ffaith fod y Deyrnas Gyfunol yn ffynhonnell fawr ar gyfer cyfieithu llyfrau i ieithoedd eraill, mae’n amharod iawn i dderbyn llenyddiaeth o ddiwylliannau eraill. Fe fydd astudiaeth gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn edrych yn gymharol ar sefyllfa ysgrifennu rhyngwladol yn yr Almaen, Ffrainc a’r DG, gan esgor ar drafodaeth ehangach yn ymwneud a chyfnewid diwylliannol, mewnforio ac allforio.

Siaradwyr: Christopher MacLehose (DG) cyhoeddwr, Pierre Astier (Ffrainc) asiant llenyddol a chyn-gyhoeddwr a Florian Höllerer (Yr Almaen) Literarisches Colloquium Berlin. Cadeirir y drafodaeth gan Alexandra Büchler (DG) Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

Oriel Gysylltiedig

Cynnwys Cysylltiedig