Y Gyfnewidfa Lên yn Ffair Lyfrau Llundain, 14-16 Mawrth 2017
Fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i Ffair Lyfrau Llundain, y farchnad ryngwladol ar gyfer trafod a gwerthu hawliau cyhoeddi a dosbarthu cynnwys ym maes print, teledu a ffilm. Eleni, Gwlad Pwyl yw canolbwynt y farchnad gyda’r bwriad o amlygu diwydiant cyhoeddi deinamig y wlad a chynyddu ymwybyddiaeth o’i thraddodiad llenyddol hir.
Fe fydd gan Y Gyfnewidfa bresenoldeb yn y Ganolfan Gyfieithu Llenyddol. Yn ystod y ffair fe fyddwn yn cyfarfod cynrychiolwyr awduron, cyhoeddwyr, a chyfieithwyr gan hyrwyddo Silff Lyfrau 2016 - 2017, ein detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.
I drefnu cyfarfod gyda Sharon Owen, swyddg Grantiau Cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru, yn ystod y ffair, cysylltwch gyda post@waleslitexchange.org
Y Ganolfan Gyfieithu Llenyddol
Mae’r Ganolfan Gyfieithu Lenyddol wedi sefydlu ei hun bellach fel canolfan boblogaidd a llwyddiannus ar gyfer hyrwyddo a thynnu sylw at y gelfyddyd o gyfieithu llenyddol yn y DG a thramor. Gan ddod a chyfieithwyr, golygyddion, myfyrwyr ac awduron ynghyd mewn un gofod ceir cyfle gwych i rwydweithio, trafod a mynychu seminarau amrywiol ar gyfieithu llenyddol.
Dyma rai digwyddiadau o ddiddordeb:
Cyfieithu y tu hwnt i'r metropolis
11:30 - 12:30
Dydd Mercher
Yn dilyn blwyddyn dymhestlog ym myd gwleidyddiaeth, a oes angen i ffuglen a'r cyfryngau sicrhau gwell cynrychiolaeth o leisiau a perspecif?
Gyda:
-
Theodora Danek, English PEN (Cadeirydd)
-
Mary Ann Newman, Cyfieithydd Llenyddol;
-
Ra Page, Golygydd cyfres Darllen y Ddinas, Gwasg Comma;
-
a'r awdur o Gymru, Alys Conran.
International Literature Showcase yn cyflwyno: Llundain mewn Ieithoedd
10:00 - 11:00
Dylanwad Llundain ar awduron ac ysgrifennu gyda:
-
Vanni Bianconi;
-
Ifor ap Glyn;
-
Tom Chivers.