Cyfnewidfa Lên Cymru: Ein gweithgareddau yn ystod epidemig Covid-19

Cyfnewidfa Lên Cymru: Ein gweithgareddau yn ystod epidemig Covid-19

02 Ebrill 2020

Yn unol â’r canllawiau swyddogol cyfredol ynglŷn â COVID-19, mae swyddfa'r Gyfnewidfa ar gau ac rydym yn cynnal ein gwaith ar-lein. Byddwn yn hysbysu unrhyw ddiweddariadau sy'n ymwneud â'n prosiectau yma ar ein gwefan.

Gweithgareddau’r Gyfnewidfa

Yn dilyn y canllawiau i gyfyngu'r haint, ac yn sgil gohirio a chanslo digwyddiadau rhyngwladol, rydym yn adolygu rhannau o’n rhaglen waith ac fe fyddwn yn dod â’r newyddion diweddaraf cyn gynted ag y bo modd, yma ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cronfa Gyfieithu

Bydd ein Cronfa Gyfieithu yn parhau i weithredu fel yr arfer ac rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer grantiau ar gyfer ein rownd nesaf, sydd yn cau ar 5ed o Fehefin.
Ar gyfer cyhoeddwyr y dyfarnwyd grant cyfieithu iddynt, rydym fel arfer yn gofyn i chi ddanfon copiau o’r llyfr atom ni. Gan fod ein swyddfeydd ar gau ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn y llyfrau corfforol ar hyn o bryd. Yn hytrach, gofynnwn i chi ddanfon PDF o’r llyfr cyhoeddedig a llun o’r clawr atom ni at post@waleslitexchange.org, ynghyd â’r ddogfennaeth arferol. Byddwn yna yn gallu talu eich grant.
Pan fyddwn yn ôl yn ein swyddfeydd ac yn medru derbyn post, byddwn yn gofyn i chi danfon y copïau caled atom ar gyfer ein llyfrgell. Cofiwch ddanfon at ein cyfeiriad newydd.

Cadw mewn cysylltiad â’r Gyfnewidfa

Credwn fod y cysylltiadau rydym yn creu trwy lenyddiaeth mor bwysig ag erioed, ac rydym yn awyddus i barhau i fod yn gyswllt rhwng cyfieithwyr, cyhoeddwr, awduron a’r sector cyhoeddi yn ystod y cyfnod eithriadol o bryderus yma.


Cadwch yn ddiogel. Arhoswch adref.

Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd


Gwefan: waleslitexchange.org
E-bost: post@waleslitexchange.org
Twitter: @walesliterature
Facebook: https://www.facebook.com/WalesLiteratureExchange/

Y Canllawiau Diweddaraf

Darllenwch y canllawiau mwyaf diweddar parthed COVID-19 yma:

Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/topic/980/latest
Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response
Cyngor Celfyddydau Cymru: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ymateb-i-coronafeirws-covid-19