Wales PEN Cymru yn cyhoeddi enillwyr cyntaf Gwobr Emyr Humphreys

Wales PEN Cymru yn cyhoeddi enillwyr cyntaf Gwobr Emyr Humphreys

15 Ebrill 2020

Portret humpreys 426x279

Cyhoeddwyd heddiw, ar ben-blwydd Emyr Humphreys yn 101, mai enillwyr cyntaf Gwobr Emyr Humphreys, gwobr a lansiwyd er mwyn "gwobrwyo’r ysgrif neu’r erthygl fwyaf beiddgar ac arloesol am Gymru", yw Mererid Hopwood am ei herthygl 'Doethineb Iaith' a Mark S. Redfearn am ei draethawd 'When Vice came to Swansea'. Llongyfarchiadau i chi'ch dau.

Darllenwch mwy am y wobr, yr enillwyr a'r feirniadaeth yma.

Darllenwch ein herthygl ni yn dathlu canmlwyddiant yr awdur llynedd ac yn edrych yn ôl ar ei yrfa arwyddocaol yn y cyfryngau yn ogystal i'w gyfraniad sylweddol at lenyddiaeth Cymru.