Cyhoeddi enw enillydd Her Gyfieithu 2017 yng Ngŵyl y Gelli

Cyhoeddi enw enillydd Her Gyfieithu 2017 yng Ngŵyl y Gelli

06 Mehefin 2017

Sss

Cyhoeddwyd mai Dr Şebnem Susam-Saraeva, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caeredin yw enillydd cystadleuaeth Her Gyfieithu 2017 (Saesneg) mewn digwyddiad Wales PEN Cymru yng Ngŵyl y Gelli, gan dderbyn gwobr o £250.

Trefnir yr Her Gyfieithu gan Wales PEN Cymru ar y cyd a Chyfnewidfa Lên Cymru, a’i noddi gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe.

Yr her eleni oedd cyfieithu cerdd gan yr awdur o Dwrci, küçük İskender, i’r Saesneg. Nododd y beirniad, Caroline Stockford: "Mae gwaith y bardd İskender yn anodd i'w gyfieithu. Fel bardd, mae’n mwynhau chwarae gyda geiriau a'i hystyron. O ganlyniad, nid yw’n hawdd dal ysbryd ei gerddi. Fodd bynnag, roedd y cyfieithiad buddugol yn ddewis clir. Roedd yna deimlad ‘glan’ i’r cyfieithiad. Roedd yna rwyddineb i’r iaith, y saernïo a’r gosod, rhwyddineb a lwyddodd i gelu’r gwaith cymhleth o gyfieithu’r gwaith. Drwy dorri llinellau mewn ffordd wahanol i’r gerdd wreiddiol llwyddwyd i greu cerdd fwy dramatig a haws i’w deall yn y Saesneg.”

Detholwyd cerdd mewn Tyrceg fel Her Gyfieithu 2017 am fod Wales PEN Cymru wedi canolbwyntio llawer o’i gweithgaredd eleni ar Dwrci gan dynnu sylw at anghyfiawnderau dynol a diffyg hawliau ieithyddol yn y wlad. Mae Wales PEN Cymru wedi bod yn cefnogi awduron a newyddiadurwyr o Dwrci sydd ar hyn o bryd yn cael eu herlyn. Mae beirniad y gystadleuaeth Caroline Stockford, wedi bod yn ymweld â Thwrci yn gyson a hynny er mwyn arsylwi ar achosion llys newyddiadurwyr yn y wlad.

Dywedodd Sally Baker, Cyfarwyddwr Wales PEN Cymru: "Mae cefnogi hawliau dynol a hawliau ieithyddol wrth galon gwaith y mudiad. Rwy’n falch iawn felly ein bod wedi llwyddo i weithio ochr yn ochr a Cyfnewidfa Lên Cymru, er mwyn hyrwyddo’r rôl bwysig sydd gan gyfieithwyr i gynorthwyo a meithrin cysylltiadau rhyngwladol drwy sicrhau bod llenyddiaeth yn teithio, ac i ddangos pwysigrwydd a chymhlethdod cyfieithu creadigol."

Cyhoeddir enw enillydd Her Gyfieithu Gymraeg 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon.

Oriel Gysylltiedig