Lansiad 'Zero Hours on the Boulevard: Tales of Independence & Belonging'

Lansiad 'Zero Hours on the Boulevard: Tales of Independence & Belonging'

19 Mawrth 2019

Lansiwyd 'Zero Hours on the Boulevard: Tales of Independence and Belonging', a gyhoeddwyd gan Parthian mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Llundain, Caerdydd, Aberystwyth a Bangor yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Aberystwyth yn y Morlan ar y 15fed o Fawrth, lle bu Dylan Iorwerth yn cadeirio trafodaeth gydag Albert Forns, Eluned Gramich a Llŷr Gwyn Lewis. Mae fideos o’r trafodaethau i’w gweld ar ein tudalen Facebook.

Mae’r flodeugerdd Brexit hon o awduron Ewropeaidd, a olygwyd gan Alexandra Büchler ac Alison Evans yn cynnwys straeon byrion gan 17 o awduron gan gynnwys Alys Conran, Karmele Jaio, Sion Tomos Owen, Eric Ngalle, Uršuľa Kovalyk, Durre Shahwar a llawer mwy. Dyma ein hymdrech i gadw Cymru yn Ewrop drwy ddeialog.

Gellir darllen rhagor am y gyfrol a’i phrynu drwy wefan Parthian.