Cyfrolau Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Cyfrolau Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn

17 Hydref 2017

98243421 90482566 llyfr y flwyddyn hir res 35 27845333283 o 1

Detholwyd tair o gyfrolau Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru i restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017.

Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2016 yn Gymraeg a Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.

Mae dwy o’r tair nofel ar restr fer yng nghategori ffuglen Cymraeg wedi bod ar Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa. Roedd nofel Guto Dafydd, Ymbelydredd, ar Silff Lyfrau 2016, ac mae Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis ar y Silff Lyfrau cyfredol yn 2017. Mae nofel Cynan Jones, Cove, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ffuglen Saesneg, ac mae’r nofel honno hefyd ar y Silff Lyfrau eleni.

Y panel beirniadu Cymraeg eleni yw’r beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon. Yn beirniadu’r cyfrolau Saesneg mae’r awdur Tyler Keevil, yr ysgolhaig Dimitra Fimi a’r bardd arobryn, Jonathan Edwards.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Cyflwynir hefyd Wobr Barn y Bobl yn y ddwy iaith.
Cyhoeddir enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Lun y 13eg o Dachwedd.

Mae rhagor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2017 yma: www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/llyfr-y-flwyddyn/

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

Barddoniaeth

Bylchau, Aneirin Karadog (Cyhoeddiadau Barddas);
Chwilio am Dân, Elis Dafydd (Cyhoeddiadau Barddas);
Llinynnau, Aled Lewis Evans (Cyhoeddiadau Barddas)

Ffuglen

Y Gwreiddyn, Caryl Lewis (Y Lolfa);
Ymbelydredd, Guto Dafydd (Y Lolfa);
Iddew, Dyfed Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Ffeithiol Greadigol

Gwenallt, Alan Llwyd (Y Lolfa);
Optimist Absoliwt, Menna Elfyn (Gwasg Gomer);
Cofio Dic, Idris Reynolds (Gwasg Gomer)

Y Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
What Possessed Me, John Freeman (Worple);
The Other City, Rhiannon Hooson (Seren);
Psalmody, Maria Apichella (Eyewear)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Pigeon, Alys Conran (Parthian);
Cove, Cynan Jones (Granta);
Ritual, 1969, Jo Mazelis (Seren)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
The Tradition, Peter Lord (Parthian);
Jumpin’ Jack Flash, Keiron Pim (Vintage);
The Black Prince of Florence, Catherine Fletcher (The Bodley Head)