Croesawu cyfieithwyr i Dŷ Newydd

Croesawu cyfieithwyr i Dŷ Newydd

06 Ionawr 2015

Pres Ion 2013 p

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o groesawu pedwar cyfieithydd i Gymru fel rhan o breswyliad cyfieithu arbennig Schwob yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yr wythnos hon.

Yn ystod y preswyliad, gynhelir rhwng Ionawr 5ed – 10fed 2015, fe fydd cyfieithwyr o’r Iseldiroedd, Tseina, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec yn cael cyfle nid yn unig i gyfieithu llenyddiaeth o Gymru ond i drafod gydag ysgolheigion ac arbenigwyr, ymweld â lleoliadau o bwysigrwydd i’r gweithiau y maent yn eu cyfieithu, yn ogystal â chael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru’n well.

Fe fydd:

  • Katelijne de Vuyst o’r Iseldiroedd yn cyfieithu gwaith Dylan Thomas a Dannie Abse;
  • Dr Yan Ying, darlithydd mewn astudiaethau cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor a golygydd rhifyn arbennig ar lenyddiaeth Cymru o’r cylchgrawn llenyddol dylanwadol Tseineaidd, Foreign Literature and Art yn ymchwilio i gyfres o ddeg cyfrol o Gymru i'w cyfieithu i'r Tseineg a’i cyhoeddi gan Shanghai Translation Publishing House.
  • Marie-Thérèse Castay o Ffrainc, cyfieithydd R. S. Thomas i'r Ffrangeg, yn gweithio ar gyfieithiad o A Toy Epic gan Emyr Humphreys, cyfrol ddetholwyd i restr Schwob o glasuron modern Ewropeaidd.
  • Tomas Mika o’r Weriniaeth Siec bardd, cyfieithydd a perfformiwr hip-hop, a fydd yn cyfieithu gwaith R.S.Thomas.

Ymysg y beirdd, awduron, arbenigwyr ac academyddion a fydd yn cyfarfod y cyfieithwyr yn Nhŷ Newydd mae Llŷr Gwyn Lewis, Tony Brown, Patrick McGuinness a golygydd Poetry Wales Nia Davies.

Dyma’r ail breswyliad a gynhelir fel rhan o brosiect uchelgeisiol Schwob, a’i nod o dynnu sylw at glasuron modern eithriadol, sy'n anodd eu canfod, sy'n hogi'r awydd am fwy. Mae’r prosiect yn ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau llenyddiaeth yn Amsterdam, Barcelona, Brwsel, Helsinki, Krakow, Cymdeithas Awduron Ewrop a Chyfnewidfa Lên Cymru.

Yn dilyn ein preswyliad Schwob cyntaf fis Ionawr y llynedd gwelwyd cyhoeddi cyfieithiad Romaneg Emilia Ivancu o gyfrol Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd, ynghyd a cwblhau cyfieithiad Pwyleg gan Marta Klonowska o Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

Cefnogir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd, a'r preswyliad gan Lenyddiaeth Cymru.