Harry Salmenniemi (Y Ffindir⇾Cymru)

Awdur preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru/HALMA, Tachwedd/Rhagfyr 2012.

Awdur preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru/HALMA yn Nhachwedd/Rhagfyr 2012 fydd Harry Salmenniemi. Cafodd ei eni yn 1983 yn Jyväskylä, Y Ffindir, ac astudiodd Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym mhrifysgolion Helsinki, Rhufain a Melbourne. Mae wedi gweithio fel prif olygydd Tuli&Savu, y cylchgrawn barddoniaeth mwyaf yn Y Ffindir. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd y tŷ cyhoeddi Osuukunta Poesia, sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi barddoniaeth a rhyddiaeth avant-garde, ac sy'n cael ei redeg yn gydweithredol gan feirdd ifanc. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o farddoniaeth, yn y traddodiad avant-garde, ac wedi ennill amryw wobr. Darllenwch ymhellach am ei waith fel bardd yma.

Bydd detholiad o waith Harry Salmenniemi yn cael ei gyfieithu gan Siân Melangell Dafydd yn ystod ei breswyliad.

Mae ysgoloriaeth Harry Salmenniemi yn cael ei chefnogi gan Dŷ Llên Jyväskylä.

Deunydd perthynol