Jim Perrin (Cymru⇾Ffrainc)

Awdur preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru yn y Maison des écrivains étrangers et des traducteurs, Saint-Nazaire, 2011.

Mae Jim Perrin yn cael ei ystyried yn un o'r awduron mwyaf blaenllaw ym maes dringo. Cafodd ei eni ym Manceinion ac mae wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn byw yng Nghymru. Disgrifiwyd Perrin gan Jan Morris yn y Guardian fel 'A remarkable writer...a sort of rucksack Thoreau...some of the finest travel writing ever'. Enillodd ei gyfrol The Climbing Essays (In Pinn, 2007) wobr llenyddiaeth fynydd gŵyl Banff yn 2006 ac fe'i dewiswyd ar gyfer rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007. Ei gyfrol ddiweddaraf yw West: A Journey Through the Landscapes of Loss (Atlantic Books, 2010). Mae'n ei disgrifio fel llyfr taith seico-ddearyddol ar natur galar. Darllenwch fwy am y gyfrol hon yma

Gwnaethpwyd preswyliad Jim Perrin yn bosib gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Deunydd perthynol

Ffilmiau cysylltiedig