Maruša Krese, yr awdur o Slofenia sydd bellach yn byw yn Berlin, oedd ein hawdur preswyl yn Ionawr 2012. Yn ystod ei phreswyliad, gweithiodd Maruša gyda Menna Wyn o Brifysgol Bangor, ar gyfieithu Vsi Moji Božiči (Mladinska knjiga Založba, 2006; Fy holl Nadoligau) i'r Gymraeg. Cydweithiodd hefyd gyda myfyrwyr ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol, a weithiodd ar gyfieithu ei gwaith i'r Gymraeg fel rhan o ymarfer i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol - arferiad cyffredin iawn ar y cyfandir.
Mae preswyliad Maruša yng Nghymru yn rhan o brosiect preswyliadau Tŷ Cyfeithu Cymru/HALMA ac yn cael ei gefnogi gan Asiantaeth Lyfrau Slofenia a thŷ cyhoeddi GOGA.
mwy