Víctor Rodríguez Núñez (Ciwba) & Katherine Hedeen (UD)

Tîm cyfieithwyr preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru, Mawrth 2012.

Cafodd Víctor Rodríguez Núñez ei eni yn Havana, Ciwba yn 1955. Yn fardd, beirniad a golygydd, mae wedi cyhoeddi dros ddeunaw cyfrol o farddoniaeth, ac wedi derbyn gwobrau rhyngwladol niferus amdanynt. Mae'n cydweithio ar hyn o bryd ar flodeugerdd o farddoniaeth o Gymru wedi ei chyfieithu i'r Sbaeneg ar gyfer marchnad De America, hynny gyda'r cyfieithydd, golygydd a'r ysgolhaig, Katherine Hedeen. Croesawyd y ddau fel cyfieithwyr preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru ym mis Mawrth 2012, pan gawsant gyfle i gyfarfod â rhai o feirdd a golygyddion Cymru tra'n ymchwilio i'r flodeugerdd.

Deunydd perthynol