Cwmni ar y paith

Cwmni ar y paith

28 November 2013

Y Paith

A sonnet composed by Karen Owen and Mererid Hopwood whilst on the road between Bariloche, Patagonia and Valdivia, Chile, with the Forgeting Chatwin poets. This translation voyage was led by Jorge Fondebrider, Club de Traductores Literarios de Buenos Aires as part of Wales Literature Exchange's Writers' Chain Wales - Latin America. The partnership was made possible with the support of Wales Arts International. Read Richard Gwyn's blog of the journey here.


Cwmni ar y paith

Yn Nyffryn yr Allorau nid oes sôn
am Hans na Fondebrider yr un waith,
na Carolina, nac am Jorge'r lôn;
ni chlywir am Veronica ychwaith.
Nid oes yn Nôl y Plu Rodolfo hael,
a beth yw Punto'r Indiaid heb ei ryd?
Dyw Dyffryn y Merthyron ddim i'w gael,
a chwilio'r wyf am Hafn y Glo o hyd.
Nid oes, wrth reswm, le i awyr glir,
nac eto'r gwynt, na chysgod cwmwl blin,
nid oes ond lle i dynnu llinell hir
a ddywed ddim am stori, dim ond ffin.
Heb gwmni'r rhai sy'n cofio camau'r daith,
pa ddiben dilyn map wrth groesi'r paith?

Mererid Hopwood a Karen Owen
ar y ffordd rhwng Bariloche a Valdivia, Medi'r 5ed, 2013