09 August 2013
Ceir ynddo ddetholiad o waith beirdd o India a gyfieithwyd gan Siân Melangell Dafydd, Menna Elfyn, Hywel Griffiths, Twm Morys, Karen Owen ac Eurig Salisbury. Mae'r cerddi'n ffrwyth nifer o weithdai a gynhaliwyd gan y Gyfnewidfa yng Nghymru ac yn India fel rhan o brosiect Cadwyn Awduron Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Y Cyngor Prydeinig.
Mewn ambell fan cewch fwy nag un cyfieithiad o'r un gerdd, neu fraslun llawrydd fel yn achos Eurig Salisbury yn cyfietihu Sampurna Chattarji. A dyna ein hatgoffa bod cyfieithu llenyddol yn broses hanfodol greadigol.
Dywed y bardd K. Satchidanandan yn ei gerdd 'Dyna'r cwbl': "Fel y gath yn cario'i rhai bach yn ei cheg i gartrefi eraill, rwyf i'n cario fy ngherddi i ieithoedd eraill: dyna'r cwbl." Mae cyfieithu llenyddiaeth mor sylfaenol â hynny i fywyd.
Dyma'r cyntaf, gobeithio, mewn cyfres o atodiadau y byddwn yn eu cyhoeddi yn flynyddol mewn partneriaeth â Taliesin.