Gwobrwyo Her Gyfieithu 2013

Gwobrwyo Her Gyfieithu 2013

09 August 2013

Mererid ar gwobrwyo Her 2013

Anrhegwyd Ffon Farddol a gerfiwyd gan Elis Gwyn i'r Prifardd Mererid Hopwood ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych Ddydd Mawrth y 6ed o Awst. Yr her eleni oedd cyfieithu o'r Sbaeneg i'r Gymraeg dair cerdd gan y bardd o Giwba, Victor Rodriguez Nunez.

Mae Mererid eisoes wedi cipio'r mwyafrif o brif wobrau'r Brifwyl dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith am ei nofel O Ran (Gomer, 2008). Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith fel cyfieithydd creadigol, ac am ei gallu i gyfieithu o nifer o ieithoedd, gan gynnwys Almaeneg a Sbaeneg.

Meddai Mererid: "Rwyf wrth fy modd gyda'r Ffon Farddol - mae'n ddarn o gelf hardd iawn. O ran pwysigrwydd y gystadleuaeth, mae meithrin y grefft o gyfieithu rhwng y Gymraeg a ieithoedd eraill yn bwysig iawn os am ehangu'n meddyliau a'n gorwelion a gorau i gyd os gall hynny ddigwydd yn uniongyrchol."

Cyfieithiadau Mererid oedd yn rhagori ymysg y rhai a ddaeth i law, yn ôl y beirniad, Ned Thomas. Yn ail agos y daeth Mary Green o'r Wladfa, a difyr yw i Ned Thomas nodi iddo synhwyro yng ngwead y cyfieithiadau gerbron bod mwy nag un ymgais wedi dod o'r rhan honno o'r byd. Meddai Ned Thomas: "Daeth deg o geisiadau i law yn y gystadleuaeth cyfieithu i'r Gymraeg, ac nid rhyfedd bod y safon yn amrywiol iawn gan i'r cerddi a osodwyd eleni fod yn heriol ar sawl lefel. Ond cafwyd dau gais gwbl deilwng o'r wobr a dim ond trwch blewyn rhyngddynt, a thrydydd mewn cynghanedd ar fesur cywydd na fedrwyd ei ystyried yn gyfieithiad ond oedd yn fersiwn crefftus iawn."

Fel mae'n digwydd, ar ôl yr Eisteddfod, bydd Mererid yn hel ei phac am Yr Ariannin a Chile ddiwedd y mis, pan fydd yn ymuno gyda beirdd o Gymru ac o Dde America ar daith arbennig dros dir o arfordir dwyreiniol Patagonia trwy'r Andes i Chile. Bydd y beirdd yn cyfieithu gwaith ei gilydd yn ystod y daith ac yn cyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd yn Buenos Aires ac mewn dinasoedd a threfi ar hyd y ffordd. Trefnir y daith gan Gylch Cyfieithu Llenyddol Buenos Aires a'r Gyfnewidfa Lên fel rhan o brosiect Cadwyn Awduron Cymru-De America, gyda chefnogaeth ariannol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Edrychwn ymlaen at weld ffrwyth y cyfieithiadau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law yn Ne America ac yng Nghymru.

Ond cyn hynny, bydd cyfle i ddarllen cyfieithiad buddugol Mererid yn Taliesin.

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 gan Dŷ Cyfieithu Cymru, sef partneriaeth a sefydlodd y Gyfnewidfa Lên gyda Thŷ Newydd (bellach yn rhan o Lenyddiaeth Cymru) i dynnu sylw at gyfieithu fel un o'r celfyddydau creadigol. Noddir y Ffon Farddol gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu holl waith a'u cefnogaeth i'r gystadleuaeth.