03 August 2020
Yn sgil gwaith ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyngor Llyfrau Cymru, o dan nawdd Cyngor Prydeinig Cymru, rydym wedi cynnull panel o ddarllenwyr rhyngwladol i gyflwyno argymhellion o lyfrau i blant o ieithoedd ar draws y byd i’w cyfieithu i’r Gymraeg.
Byddwn yn trafod llyfrau llun a stori, chwedlau, llyfrau graffeg, barddoniaeth ysgafn, nofelau hanesyddol ar gyfer plant yn eu harddegau a llawer mwy!
Byddwn yn teithio i Ffrainc, Gwlad Pwyl, yr Almaen, Awstria, Sweden, Sbaen, Gwlad Belg, India, yr Ariannin a Gwlad y Basg i ni gwrdd â chymeriadau newydd a straeon dychmygus!
Ein Panel:
1. Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.
2. Walter Brooks, Rheolwr Addysg, Cyngor Prydeinig Cymru.
3. Valériane Leblond, dylunydd ac awdur llyfrau i blant.
4. Marta Listewnik, darlithydd prifysgol a chyfieithydd llenyddol.
5. Mohini Gupta, cyfieithydd, hwylusydd ac ymchwilydd llenyddiaeth i blant.
6. Begotxu Olaizola, athrawes, cynghorydd, ymgyrchydd a chyfieithydd.
Cadeirir gan Elin Haf Gruffydd Jones a Cari Lake, Mercator, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Ymunwch â’r sgwrs ar www.eisteddfod.cymru a Facebook, dydd Mawrth, 4ydd o Awst am 1 o’r gloch!