Ganwyd Abeer Ameer yn Sunderland ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd.
Hyfforddodd fel deintydd yn Llundain gan gwblhau ei Haelodaeth o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon Deintyddol yng Nghaeredin. Mae ganddi MSc mewn Deintyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.
Mae cerddi Abeer Ameer wedi eu cyhoeddi mewn amryw o gyfnodolion a blodeugerddi print ac ar-lein gan gynnwys Acumen, Poetry Wales, Planet, Magma, Red Poets, New Welsh Reader, Prole, The High Window, Atrium, The Rialto a Long Poem Magazine. Bu’n rhan o Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru yn 2020.
Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf Inhale / Exile gan Seren yn 2021, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2021.