Mae cyfieithu wrth wraidd yr hyn a wnawn - mae ein holl weithgarwch yn ymwneud â chyfieithu. Mae ein Silff Lyfrau flynyddol yn argymell llyfrau diweddar i'w cyfieithu, ac mae ein hadran gyfieithiadau yn dangos yr hyn sydd eisoes wedi'i gyhoeddi mewn cyfieithiad ledled y byd.
Gwlad amlieiththog yw Cymru, ac mae gan y Gymraeg draddodiad llenyddol hir sy'n uchel ei pharch o fewn ei diwylliant. Ein nod yw sicrhau bod llenyddiaeth Gymraeg yn cael cyfle i deithio i ieithoedd eraill ar draws y byd.
Gall hyn ddigwydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, trwy gyfieithu i'r Saesneg sy'n cyrraedd darllenwyr eang ac ar yr un pryd gall wasanaethu fel pont ar gyfer cyfieithiadau i lawer o ieithoedd eraill.
Er mwyn datblygu cyfieithu llenyddol o'r Gymraeg, rydym yn trefnu seminarau a gweithdai, ac yn cyfrannu at hyfforddiant tymor byr cyfieithwyr yng Nghymru. Rydym wedi lansio cyfres o weithdai sy'n canolbwyntio ar gyfieithu barddoniaeth, rhyddiaith a drama, yn ogystal â mentoriaethau ar gyfer awduron sy'n dymuno cyfieithu neu addasu eu gweithiau Cymraeg i'r Saesneg.
Ers 2010, gyda’n chwaer sefydliad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, rydym yn ymwneud â rhaglennu digwyddiad blynyddol blaenllaw, yn y Ganolfan Gyfieithu Llenyddol yn Ffair Lyfrau Llundain. Rydym hefyd yn adeiladu rhwydwaith o gyfieithwyr llenyddol sy'n gweithio mewn cyd-destun Cymreigg neu sy'n cyfieithu ysgrifennu o Gymru i ieithoedd eraill.
Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth, danfonwch ebost atom post@cyfnewidfalen.cymru gan roi ‘Rhwydwaith Cyfieithwyr’ yn y llinell ‘pwnc’.