Sefydlwyd Cyfnewidfa Lên Cymru dros ugain mlynedd yn ôl gyda'r nod o greu llwyfan i hyrwyddo llenyddiaeth orau Cymru dramor a chyfrannu at ryngwladoli'r byd llenyddol gartref. Ein harwyddair yw 'Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd' ac rydym yn cydweithio â'n chwaer sefydliad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a llawer o bartneriaid eraill i dynnu sylw at dirwedd lenyddol amrywiol a dwyieithog Cymru. Ein nod yw darparu cyfleoedd i ddod ag awduron Cymraeg i sylw gwledydd y tu hwnt i'n ffiniau, i gyhoeddwyr gysylltu â'i gilydd ac i gyfieithwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau.
Rydym yn gweld cyfnewid llenyddol a chyfieithu fel elfennau angenrheidiol mewn ecoleg ddiwylliannol fregus ac yn ymrwymedig iddynt. Dathlwn yr amrywiaeth ieithyddol sy'n bodoli yn y byd heddiw ac rydym yn benderfynol o gyfrannu at ei gynaliadwyedd a'i ddatblygiad. Credwn fod parch at ieithoedd ac at gyfieithu wrth wraidd cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol.
Paldies RigaCyn imi bacio i fynd i Riga, gofynnwyd imi restru tri pheth roeddwn i’n ei gysylltu â Latfia. Fy ateb? Y môr Baltig, fforestydd a Black Balsam. Er mawr cywilydd imi, wyddwn i fawr ddim tu hwnt i wybodaeth arwynebol, ystrydebol. Ychydig ddyddiau cyn mynd, bûm yn brasgamu o un wefan i’r…more