Andrew Teilo

Andrew Teilo

Mae Andrew Teilo yn actor ers dros ddeng mlynedd ar hugain, yn bennaf adnabyddus am ei waith ar y gyfres Pobol y Cwm. Mae’n ddarllenwr obsesiynol, yn hanesydd, yn gerddor ac yn ddarlunydd ac mae ganddo radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae’n briod, ac yn dad i ddau o feibion, a thriga ym mharthau ucha’ Dyffryn Tywi – bro ei febyd – o hyd.