Mae Angharad Tomos yn awdur ac yn ymgyrchydd iaith. Fe’i ganed ym Mangor, fe’i magwyd yn Llanwnda ger Caernarfon, ac mae bellach yn byw ym Mhenygroes. Bu’n gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe'i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith.
Mae'n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, a gyhoeddwyd gan y Lolfa ym 1983.
Mae wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys:
Mae rhai o’i gwaith yn cynnwys:
Cyhoeddwyd cyfieithiadau Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban o lyfrau cyntaf Rala Rwdins. Cyhoeddwyd Twilight Song, cyfieithiad o Si Hei Lwli a gyfieithiwyd gan Elin ap Hywel, gan wasg Gomer yn 2004. Cyhoeddwyd hefyd gyfieithiad Almaeneg o'r nofel. Cyhoeddwyd The Empty Room, cyfieithiad o Darn Bach o Bapur a gyfieithwyd gan Angharad ei hun, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2016.
Cyhoeddwyd ei nofel hanesyddol, Y Castell Siwgr, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2020 a chyrhaeddodd restrau byrion Llyfr y Flwyddyn a Gwobrau Tir Na N-Og 2021. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg, Woven, a gyfieithwyd gan Mícheál Ó hAodha yn 2021. Dewiswyd ei nofel ddiweddaraf, Arlwy'r Sêr, ar gyfer ein Silff Lyfrau yn 2023 .