Barbara Pogačnik

Barbara Pogačnik

 Barbara Pogačnik

Ganwyd Barbara Pogačnik yn 1973. Graddiodd mewn ieithyddiaeth a llenyddiaeth Rwmans yn Université Catholique de Louvain yng Ngwlad Belg a chwblhaodd ei gradd MA yn y Sorbonne ym Mharis. Yn gyfieithydd, ysgrifwr, beirniad llenyddol a bardd, mae hefyd wedi gweithio yn Adran Astudiaethau Cyfieithu Prifysgol Ljubljana (2002-2004).

Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Poplave (Dilyw) yn 2007 gan Mladinska knjiga. Cyhoeddwyd ei hail gyfrol V množici izgubljeni papir (Darnau o Bapur Ar Goll Mewn Tyrfa) yn 2008. Cyfieithwyd a chyhoeddwyd nifer o'r cerddi dramor.

Cyhoeddwyd ei cherddi hefyd yn y rhan helaeth o'r prif gylchgronau llenyddol yn Slofenia (e.e. Literatura, Nova Revija), a thramor, yng nghylchgrawn Cymdeithas Awduron Y Ffindir, Kirjailija; yn y cylchgrawn cyfieithu llenyddol Metamorphoses yn Amherst, Northampton, UD; yn Profemina a Književni list yn Belgrad; yn Hwngari yng nghylchrawn llenyddol Pannon Tükör, ac yn Taliesin yng Nghymru.

Mae wedi golygu a chyfieithu i'r Ffrangeg flodeugerdd o waith tri bardd benywaidd Slofenia yn 2005 ac mae wedi gweithio fel cyd-olygydd nifer o gyfrolau cyfresi Litterae slovenicae (2004-2006). Mae ar fwrdd golygyddol y cylchgrawn Literatura. Mae hefyd yn rheolwr rhaglennu gŵyl ryngwladol Poets Translating Poets - Sinji krog. Mae ei chyfieithiadau i'r Slofeneg yn cynnwys gwaith Maurice Blanchot, Oscar V. de L. Miłosz, Paul Ricoeur, Roland Barthes a Jacques Lacan yn ogystal â detholiad o awduron cyfoes o Wlad Belg a Chanada.