Brennig Davies

Brennig Davies

Awdur o dde Cymru yw Brennig Davies sy'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn bymtheg oed, ef oedd enillydd cyntaf erioed Gwobr Awduron Ifanc y BBC, am stori a ddarllenwyd ar BBC Radio 1 gan Syr Ian McKellen, ac yn 2019 enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies ddwywaith, a bu'n rhan o rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Mae ei nofel gyntaf yn Gymraeg, Fel yr Haul (Sebra), a'i gasgliad o straeon yn Saesneg Dogs in a Storm (Parthian) ar y Silff Lyfrau eleni.