Bardd a llenor Cymraeg a ddaw'n wreiddiol o Amlwch ym Môn yw Caryl Bryn Hughes, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynnwys Digidol Hansh yn Antena, Caernarfon.
Graddiodd â BA o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2017 cyn graddio â MA o’r un Ysgol yn 2020.
Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, mae'n gyn-aelod o grŵp barddol benywaidd Cywion Cranogwen sydd yn teithio ledled Cymru â'u sioeau amlgyfrwng, ac yn aelod o dîm Y Chwe Mil ar raglen Talwrn y Beirdd.
Roedd yn Fardd y Mis Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2019, ac yn yr un flwyddyn daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Barddas a'r Stamp ymysg cyhoeddiadau llenyddol eraill.
Enillodd y categori Barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2020 gyda'i chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Hwn ydy'r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2019).
[Llun: Llenyddiaeth Cymru]