Lewis Davies

Lewis Davies

 Lewis Davies

Ganed Lewis Davies ym Mhenrhiwtyn, de Cymru. Bu'n byw ac yn gweithio yn yr ardal cyn dechrau ysgrifennu yn 1992. Yn yr un flwyddyn, sefydlodd wasg Parthian ac mae'n Gyfarwyddwr Cyhoeddi ar y wasg sydd wedi ei lleoli yn Aberteifi, Ceredigion. Daeth ei nofel gyntaf, Work, Sex and Rugby, a chryn dipyn o sylw iddo pan ei chyhoeddwyd yn 1993. Ers hynny, cyhoeddodd nifer o gyfrolau amrywiol eu naws, er enghraifft, stori dditectif, Tree of Crows, a Freeways, am deithio ar hyd Route 66 yn yr Unol Daleithiau, a enillodd iddo wobr John Morgan, ac yn fwy diweddar, A Piece of Happiness, sef nofel am oedolion ifainc dan anabledd sydd yn dibynnu ar y gefnogaeth y mae eu rhieni a'r gwasanaeth iechyd yn ceisio ei ddarparu iddynt.

Cyhoeddwyd Football a To the Centre of the Volcano gan Parthian yn 2006. Yn 2005 golygodd Urban Welsh: New Welsh Short Fiction (Parthian) sy'n rhoi llwyfan i ffuglen gan awduron ifanc Cymru. Cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion, Love and Other Possibilities, yn 2008.