Martin Davis

Martin Davis

 Martin Davis

Magwyd Martin Davis yn Stratford-upon-Avon. Roedd gan y teulu gysylltiad agos ag ardal Llanrwst lle y cafodd Martin ei eni a threuliodd gyfnodau hir ar wyliau yno ac yn ardal Porthmadog yn ystod ei blentyndod. Cyfieithydd llawrydd ydi o ac yn awdur nifer o gyfrolau, yn farddoniaeth, yn llyfrau i blant, straeon byrion a phedair nofel i oedolion. Bu'n cyfrannu at nifer o raglenni teledu a radio'n ogystal. Ymhlith ei gyfrolau ceir: Os Dianc Rhai, chwedl deuluol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru, Rhydychen a'r Almaen yn y 1930au a Tonnau Tryweryn (Y Lolfa, 2008) sydd wedi’i gosod yn erbyn cefndir cythryblus boddi Cwm Tryweryn ar ddechrau’r 1960au. Mae ei nofel ddiweddaraf Broc Rhyfel (Y Lolfa, 2014) yn tywys y darllenydd i rai o gorneli tywyllaf Ewrop fodern, o'r rhyfel a rwygodd yr hen Iwgoslafia i erchyllter masnachu menywod heddiw.

Silff Lyfrau