Awdur anarchaidd dienw yw Diffwys Criafol. Ar ôl magwraeth o symud tŷ yn gyson, maen nhw'n hanu o bobman a nunlle – o'r Cymoedd i Wynedd. Erbyn hyn maen nhw'n byw yng Nghaerdydd, fel cynifer o'r rhai a ddadwreiddiwyd – yn byw rhyw fath o fywyd brechdan: llenwad annelwig rhwng tafell o fara sy'n bradychu'r famwlad a chrystyn euog o foneddigeiddio. Mae eu gwaith i'w gael ar-lein ac mewn ambell gasgliad a chylchgrawn, ond Ni Allwn – Allwn Ni yw eu llyfr unigol cyntaf.