Mae Elin ap Hywel (1962) yn fardd, yn gyfieithydd ac yn olygydd sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae ei gwaith wedi ei gynnwys mewn amryw o flodeugerddi, a’i gyfieithu i’r iaith Tsiec, Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Siapaneaidd.
Mae ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys Pethau Brau (Y Lolfa, 1982), Ffiniau / Borders (Gomer, 2002), ac mae hi wedi golygu dau gasgliad o straeon byrion gan fenywod o Gymru yn Saesneg i Honno: Luminous and Forlorn (1994), a Power (1998).
Mae ei chyfrol ddiweddaraf, Dal i Fod (Barddas, 2020) yn cynnwys ei holl gerddi Cymraeg, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020–21. Cyrhaeddodd hefyd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae ganddi lais unigryw fel bardd a themâu amlwg ei gwaith yw hanes, chwedlau, lle'r ferch yn y byd sydd ohoni a phrofiadau personol. Mae ei harddull yn delynegol ond hefyd yn bryfoclyd ac eironig ar brydiau.