Mae Emyr Wallace Humphreys yn cyfieithu o'r Gymraeg a'r Portiwgaleg i'r Saesneg, ac o'r Saesneg i'r Gymraeg. Yn raddedig o'r rhaglen MA mewn Astudiaethau Cyfieithu yng Ngholeg Prifysgol Llundain, mae wedi cyhoeddi cyfieithiadau llenyddol mewn cyfnodolion fel The White Review, y New Welsh Review a Joyland Magazine, ac mae wedi cydweithio â Parthian Books, Harper Collins a Gwasg UCL fel cyfieithydd llenyddol. Dyfarnwyd iddo Fentoriaeth Cymunedau Gweladwy 2022-23, sy'n rhan o raglen Mentora Cyfieithwyr sy'n Dod i'r Amlwg y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, ac y canlyniad roedd ei gyfieithiad cyntaf o glasur Cymraeg Owain Owain, Y Dydd Olaf (The Last Day, Parthian Books, 2024). Cafodd ei ddewis ar gyfer Ulysses' Shelter, cyfnewidfa lenyddol lle bu'n gweithio ym Melgrâd ar ei gyfieithiad nesaf o nofel. Mae'n rhannu ei amser rhwng Powys wledig ac Aberystwyth, lle mae hefyd yn gweithio fel cyfieithydd Cymraeg i Goleg Gwent ac yn gyfieithydd Cymraeg gwirfoddol i Mid & North Powys Mind.