Fflur Dafydd

Fflur Dafydd

Ewch i'r Wefan
 Fflur Dafydd

Mae Fflur Dafydd (1978) yn awdur ffuglen yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ganddi MA o Brifysgol East Anglia ynghyd â doethuriaeth o Brifysgol Bangor ar farddoniaeth R.S. Thomas.

Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofelau Atyniad a Y Llyfrgell, ac y mae hefyd wedi cyhoeddi dwy nofel Saesneg - Twenty Thousand Saints, (enillydd Gwobr Oxfam & Gŵyl y Gelli 2009) a The White Trail. Cafodd Awr y Locustiaid, ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, ei addasu ar gyfer y radio.

Cynrychiolodd Cymru ym mhrosiect stori fer Scritture Giovani yn 2005, gan berfformio mewn gwyliau llenyddol ym Mantova, Berlin a Molde.

Hi yw dyfeisydd ac awdur y gyfres boblogaidd Parch i S4C, a dderbyniodd dair enwebiad BAFTA Cymru. Cafodd Fflur hefyd ddwy enwebiad BAFTA Cymru arall am yr awdur gorau yn 2017 a 2019 am ei gwaith ar Y Llyfrgell a’r gyfres drosedd 35 awr. Hi hefyd yw awdur cyfres 5 o 35 Diwrnod. Mae bellach wedi ysgrifennu dros 40 awr o deledu i S4C a’r BBC iPlayer.

Ymddangosodd ei chyfres deledu newydd Yr Amgueddfa ar S4C yn 2021, ac fe’i gwerthwyd i Britbox yn UDA a Chanada. Ysgrifennodd hefyd benodau o Humans ar gyfer fersiwn rhyngwladol o gyfres boblogaidd Channel 4 i Endemol Shine.

Fflur Dafydd oedd Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2013-2014. Cafodd ei gwahodd gan y Cyngor Prydeinig i gynrychioli Cymru/DU ar Raglen Ysgrifennu Ryngwladol Prifysgol Iowa yn 2009 ac mae wedi treulio cyfnodau preswyl yn Helsinki yn rhan o brosiect Sealines Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Dewiswyd ei chyfrol ddiweddaraf, Lloerganiadau, i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Cafodd ei chynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch ei phennod o The Library Suicides (cyfieithiad o'i nofel Y Llyfrgell), a gyfieithwyd i'r Saesneg gan yr awdur, yma.

Silff Lyfrau

Fideos