Geraint Goodwin

Geraint Goodwin

Ganwyd Geraint Goodwin (1903–1941) yn sir Drefaldwyn. Ei lyfrau cyntaf oedd Conversations with George Moore (1929), a Call Back Yesterday (1935) - yr ail, i raddau, yn hunan-gofiannol. Troes wedyn i ysgrifennu nofelau a storïau ac at bynciau Cymreig - The Heyday in the Blood (1936), The White Farm (1937), Watch for the Morning (1938), a Come Michaelmas (1939).

Bu’n byw yn Llundain yn newyddiadura ac yn ysgrifennu llyfrau rhwng 1922 a 1938. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n byw yng Nghorris Ucha ac wedyn yn Nhrefaldwyn lle y bu farw 10 Hydref 1941.


[Ffynhonnell: Y Bywgraffiadur Cymreig]