Jon Gower

Jon Gower

Ewch i'r Wefan
 Jon Gower

Magwyd Jon Gower yn Llanelli, ac astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Mae’n gyn-ohebydd y Celfyddydau a’r Cyfryngau i BBC Cymru, ac mae Jon yn gwneud rhaglenni dogfen i’r teledu a’r radio ers dros 30 mlynedd. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r rhain yn cynnwys An Island Called Smith (2001) a enillodd iddo Wobr Teithio John Morgan ac Uncharted (2010).

Yn 2009 enillodd wobr fawr Creative Wales i ymchwilio i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Enillodd Jon Gower Wobr Llyfr y Flwyddyn 2012 am ei nofel, Y Storïwr (Gomer, 2011). Cyhoeddwyd ail gyfrol o straeon byrion Jon, Too Cold for Snow, yn 2012.