Mae David Greenslade yn dysgu ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Fel awdur arobryn mae’n ysgrifennu ysgrifau yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau – barddoniaeth yn bennaf, ac un nofel. Mae’n cyd-weithio gydag artistiaid gweledol ac mae ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth yn ymateb i destun yn yr amgylchedd. Fel athro ysgrifennu profiadol, mae wedi gweithio i’r Cyngor Prydeinig ac wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i’w ymchwil a’i gyhoeddiadau.