Kathryn Gray

Kathryn Gray

 Kathryn Gray

Ganwyd Kathryn Gray yng Nghymru yn 1973. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, The Never-Never, restr fer Gwobr Forward ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau a’r Wobr T. S. Eliot. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn The Times Literary Supplement, The Independent, Poetry Review a Poetry Wales. Cymerodd ran yn A Poet’s Guide to Britain a The Larkin Tapes ar gyfer y BBC, ac mae hi wedi cyd-weithio ar ffilmiau o farddoniaeth ar gyfer BBC Cymru, a leisiwyd gan Matthew Rhys ac Eve Myles.

Mae Kathryn wedi dysgu i Ymddiriedolaeth Arvon a’r Ysgol Farddoniaeth, yn gyfarwyddwr ar Lenyddiaeth Cymru ac yn ymddiriedolwr ar gyfer Tŷ Newydd.

Bu Kathryn yn olygydd ar New Welsh Review am dair blynedd, a tan yn ddiweddar hi oedd golygydd cyhoeddi Parthian Books. Ar hyn o bryd mae Kathryn yn ymchwilydd ar brosiect ymchwil arloesol tair blynedd a gaiff ei gyllido gan Leverhulme, yn ymchwilio i farddoniaeth Gymreig yn Saesneg, ‘Devolved Voices.’