Mae Gruffudd yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun. Mae wedi gweithio fel sgriptiwr ar gyfresi 'Pobol y Cwm', 'Rownd a Rownd' a 'Stad'. Yn 2018 enillodd gadiar Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2019 a 2021.
Mae'n awdur dwy gyfrol o gerddi i oedolion sef, 'Hel llus yn y glaw (2015) a 'Mymryn Rhyddid' (2023) a aeth yn ei blaen i ennill categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024. Bu Theatr Gendlaethol Cymru yn teithio ei ddrama 'Parti Priodas' yn ystod Gwanwyn 2024 a bydd ei ddrama nesaf '1936' yn mynd ar daith gyda Theatr Bara Caws ym mis Tachwedd 2024.