Megan Angharad Hunter

Megan Angharad Hunter

 Megan Angharad Hunter

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur a sgriptiwr o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers derbyn gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a golygydd llyfrau plant. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel ar gyfer oedolion ifanc: cyhoeddwyd tu ôl i’r awyr, ei nofel gyntaf yn 2020 cyn ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn, ac fe gyhoeddwyd Cat fel rhan o gyfres arobryn Y Pump. Yn fwy diweddar, bu’n cyd-gydlynu cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl efo’r bardd Bethany Handley, ac yn 2023 fe gafodd gyfle gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yn India cyn trafod hygyrchedd yn y diwydiant cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain. Cyhoeddwyd Astronot yn yr Atig, ei nofel gyntaf i blant ym mis Hydref 2023. Y themâu amlycaf yn ei gwaith yw iechyd meddwl, a/Anabledd a rhywioldeb ac mae hi hefyd yn gwirfoddoli'n achlysurol efo Llamau, elusen sy’n darparu llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd.