Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Mae'n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion a’r nofel Y Bwrdd.