Mae Jasmine Donahaye yn byw yng Ngheredigion. Cafodd ei geni yn Lloegr a bu'n byw am ddeuddeng mlynedd yn California. Yn feirniad, bardd a golygydd, mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar bynciau llenyddol a diwyllianol amrywiol, gan gyhoeddi cyfrolau yng Nghymru, Lloegr a'r Unol Dalieithiau. Cafodd ei chyfrol gyntaf, Misappropriations (Parthian) ei dewis ar gyfer rhestr fer gwobr Jerwood Aldeburgh am y casgliad cyntaf gorau yn 2006. Mae'r gyfrol yn archwilio'r profiad o ddadleoli ynghyd a phrofiadau plentyndod, Mam a rhywioldeb, hynny yng nghyd-destun tirluniau gwledig a dinesig Cymru, Israel, Lloegr a Chalifornia. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Self-Portrait As Ruth (Salt, 2010). Cyhoeddwyd The Wales-Israel Tradition yn 2010 gan Wasg Prifysgol Cymru.